Cofnodion

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

21 Medi 2023 (drwy Zoom)

 

 

Yn bresennol:

Mark Isherwood AS (Cadeirydd), Sioned Williams AS, Megan Thomas (Ysgrifennydd), Amanda Say, Gary Simpson, Trevor Palmer, William Fawcett, Rhian Davies, Jan Thomas, Jenny Carroll, San Leonard, Zoe King, Cari Jones, Tracey Blockwell , Kat Watkins, Monique Craine, George Lockett, Ian Patton, Shaun Bendle, Sheryll Holley (Capsiynydd), Hilary Maclean (Capsiynydd), Owen Williams, Jan Underwood, Ryland Doyle

Lara Warlow, Lorraine Cosgrove, Jack Dunne, Shahd Zorob, Gareth Marshall

 

Ymddiheuriadau:

Llyr Gruffydd AS, Becky Ricketts, Sophie Mason, Zoe Richards, Dee Montague, Jessica Laimann, Christine Stewart

 

1. Croeso

 

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau, a nododd yr ymddiheuriadau.

 

Materion yn codi o’r cofnodion blaenorol.

 

Gofynnodd Cari a oedd Megan wedi gwneud gwaith dilynol yn ymwneud â’r grŵp Scrap the Charges.

 

Dywedodd Megan nad yw hyn wedi'i gwblhau, ond y bydd yn blaenoriaethu'r gwaith hwn.

 

Cymeradwywyd y cofnodion fel rhai gwir a chywir.

 

Cynigiwyd gan: Sioned Williams AS

Eiliwyd gan: Cari Jones

 

2. See Around Britain

 

Cyn cyflwyno Marg, dywedodd y Cadeirydd fod pryderon wedi'u codi ynghylch faint o amser a roddir i See Around Britain ar ddechrau cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd.

 

Ar ôl cael gwybod nad yw’r Tywysog William yn gallu cynorthwyo gyda See Around Britain, dywedodd Marg fod angen iddynt ystyried ystod eang o ffyrdd i helpu i gomisiynu cyfres deledu i godi proffil See Around Britain. Roedd wedi drafftio llythyr yn crynhoi eu cais, a rhannwyd y llythyr hwnnw gyda'r aelodau cyn y cyfarfod.

Cadarnhaodd Rhian Davies y bydd Anabledd Cymru, Anabledd Dysgu Cymru a See Around Britain yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod hyn ymhellach.

 

Cytunodd Mark Isherwood AS a Sioned Williams AS i gefnogi comisiynu cyfres deledu.

 

3. Diweddariadau gan y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd

 

Dywedodd Megan wrth y grŵp y gobeithir y bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd yn un hybrid ar 7 Rhagfyr.

 

4. Profiadau ar Drafnidiaeth Gyhoeddus – Gary Simpson

 

Rhannodd Gary ei brofiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rheilffordd Wrecsam i Bidston yw rheilffordd leol Gary. Mae sawl taith ar y rheilffordd yn cael ei chanslo, ac nid yw gorsaf Bidston yn hygyrch. Mae'n orsaf ar ffurf ynys, ac nid oes lifftiau yno. Nid yw'n briodol disgwyl i bobl anabl allu defnyddio’r platfform hwn i barhau â’u taith.

 

O siarad â phobl anabl eraill, dywedodd Gary fod pobl wedi syrffedu ar deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gweld siwrneiau yn cael eu canslo a threnau a gorsafoedd anhygyrch yn achosi straen a phryder.

 

Cododd bryderon hefyd am rai o’r fflyd newydd o drenau sydd heb doiledau, gan orfodi teithwyr i ddod oddi ar y trên a defnyddio toiled ar y platfform.

 

Mae Gary wedi ymuno â Phwyllgor Rhanbarthol Unite ar gyfer Aelodau Anabl, Pwyllgor Cenedlaethol Unite ar gyfer Aelodau Anabl a grwpiau cenedlaethol y TUC sy’n gofyn am fewnbwn Aelodau Anabl. Roedd yn falch o ddweud mai Pwyllgor Unite yng Nghymru oedd yr un a gynigiodd fod Pwyllgor Cenedlaethol Unite ar gyfer Aelodau Anabl a’r TUC yn mabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Roedd Gary yn falch o ddweud bod gan Sir y Fflint fflyd o dacsis hygyrch bellach ond dim ond ar gyfer teithiau i’r ysgol ac yn ôl y cânt eu defnyddio.

 

Dywedodd Gary hefyd fod ei brofiad o wneud cais am bàs bws yn anoddach na gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).

 

Cyfeiriodd William Fawcett at y Siarter Teithwyr. Dywedodd pe bai teithwyr yn cael eu gadael yn yr orsaf reilffordd anghywir, yna cyfrifoldeb y rheilffordd yw darparu cerbyd hygyrch i gludo teithwyr i'w cyrchfan.

 

O ran ceisiadau am basys bws, dywedodd Sioned ei bod wedi codi’r mater gyda’r Prif Weinidog yn flaenorol ac roedd y Prif Weinidog wedi dweud y byddai’n ymchwilio i’r mater. Awgrymodd Sioned felly y dylid anfon llythyr ar y cyd â Mark Isherwood AS at y Prif Weinidog yn gofyn am ddiweddariad. Cytunodd y Cadeirydd.

 

Awgrymodd Trevor y dylai Gary ymuno â Phanel Hygyrchedd Trafnidiaeth Cymru.

 

Awgrymodd y cadeirydd y dylid gwahodd Trafnidiaeth Cymru i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd yn y dyfodol, a gofynnodd i'r ysgrifennydd drefnu hyn.

 

5.  Cau Canghennau Banc Lloyds - Ian Stanton

 

Siaradodd Ian am y ffaith bod ei fanc Lloyds lleol wedi cael ei gau a bod hynny, yn ei farn ef, yn gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Mae'r achosion hyn o gau canghennau banc Lloyds hefyd yn digwydd ar draws rhannau eraill o Gymru.

 

Dywedodd fod Lloyds wedi penderfynu bod canghennau ac arian parod yn ddiangen. Mae wedi gwneud sawl ymgais i siarad â Lloyds heb gael unrhyw ymateb rhesymol.

 

Dosbarthodd Ian nifer o daflenni i'r grŵp cyn y cyfarfod yn rhestru rhai o'r canghennau sydd wedi cau.

 

Dywedodd nad yw'r banciau yn ymgynghori'n lleol cyn cau canghennau. Mae'r Gwasanaethau Ariannol yn gosod canllawiau llym ar gyfer banciau cyn iddynt newid gwasanaethau arian parod neu wasanaethau bancio, ond mae'n teimlo nad yw Lloyds yn cydymffurfio â hyn. Yn gyfreithiol, mae'n rhaid iddynt nawr ddarparu mynediad i arian parod yn rhad am ddim, a hynny o fewn 3 milltir.

 

Awgrymodd y cadeirydd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o UK Finance (‘British Bankers’ Association’ yn flaenorol) i fynychu cyfarfod yn 2024. Cytunwyd ar hyn gan bawb.

 

Awgrymodd Bill hefyd y dylid gwahodd cynrychiolydd o'r Llywodraeth. Eglurodd y cadeirydd nad yw Cyllid wedi'i ddatganoli i Gymru, ond y gallai'r grŵp ofyn i swyddog fynychu.

 

6. Unrhyw fater arall

 

Chris Dunn, Diverse Cymru, Cyllid Taith - Zoe King yn lle Chris Dunn

 

Mae elusen Diverse Cymru wedi'i benodi'n Hyrwyddwr Taith. Rhaglen gyfnewid ar gyfer dysgu rhyngwladol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Taith, ac mae’n cael ei darparu gan Brifysgol Caerdydd. Cynlluniwyd y rhaglen i ddarparu cyfleoedd sy'n trawsnewid bywydau dysgwyr a phobl ledled Cymru i ymgymryd â rhaglenni cyfnewid addysgol. Fe wnaeth Diverse Cymru ymgymryd ag un o'r teithiau cyfnewid ym mis Mai pan aethant â grŵp o staff a dysgwyr i Creta. Fel Hyrwyddwyr, eu rôl yw cefnogi ac annog ystod eang o sefydliadau i wneud cais am gyllid grant Taith.

 

Mae rhai grwpiau o bobl wedi’u tangynrychioli o ran ymgeisio am y cyfleoedd hyn a’u derbyn, megis pobl anabl, oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol, pobl o gefndiroedd economaidd cyn-ddifreintiedig a chefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

 

Mae'r alwad nesaf am gyllid yn agor ar 5 Hydref a bydd yn cefnogi sefydliadau sydd am ganolbwyntio ar bartneriaethau rhyngwladol a chydweithio strategol.

 

Camau Gweithredu:

 

1. Gwahodd Trafnidiaeth Cymru i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd yn y dyfodol.

2. Mark Isherwood AS a Sioned Williams AS i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ddiweddariad ar y broses o wneud cais am basys bws.

3. Gwahodd cynrychiolwyr o UK Finance (‘British Bankers’ Association’ yn flaenorol) a chynrychiolydd o Lywodraeth y DU i gyfarfod yn 2024.